
据威尔士党前领袖称,如果威尔士党想要说服威尔士人民相信脱离联合王国的益处,他们需要在独立的含义上做“非常多的家庭作业”。
Mae angen i Blaid Cymru wneud "llawer iawn mwy o waith cartref" ar oblygiadau annibyniaeth os ydyn nhw am berswadio pobl Cymru o fanteision gadael y Deyrnas Unedig, yn ôl cyn-arweinydd y blaid.
威格利勋爵在英国广播公司威尔士电台的《Gwleidydda》播客节目中表示,该党需要为未来几年的不同宪法可能性做好准备,包括苏格兰可能走向第二次独立公投的潜力。
Yn siarad ar bodlediad Gwleidydda BBC Radio Cymru, dywedodd yr Arglwydd Wigley fod angen i'r blaid baratoi ar gyfer gwahanol bosibiliadau cyfansoddiadol yn y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys y potensial y gallai'r Alban symud tuag at ail refferendwm annibyniaeth.
他说,联合王国宪法的任何重大变化都会对威尔士产生“直接影响”。
Byddai unrhyw newid mawr yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn cael "effaith uniongyrchol" ar Gymru, dywedodd.
威格利表示,威尔士党有责任向公众传达一个独立的威尔士将如何运作。
Dywedodd Wigley fod cyfrifoldeb ar Blaid Cymru i gyfathrebu i'r cyhoedd sut y byddai Cymru annibynnol yn gweithredu.
据威尔士党称,成立一个新的威尔士国家委员会将使威尔士人民有机会考虑我们国家未来的不同选择。
Yn ôl Plaid Cymru, bydd sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru yn rhoi'r cyfle i bobl Cymru ystyried y gwahanol opsiynau ar gyfer dyfodol ein cenedl.
在与贝丝·里斯·罗伯茨、沃恩·罗德里克和理查德·温·琼斯教授的讨论中,威格利勋爵说:“如果苏格兰突然走向第二次公投,那么显然我们必须为此做好准备,因为如果苏格兰像它所说的那样退出联合王国,那将对威尔士产生直接影响。”他补充说,该党需要做更多工作来解释独立的实际含义。
Mewn trafodaeth gyda Bethan Rhys Roberts, Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones, dywedodd yr Arglwydd Wigley: "Os 'dy'r Alban yn symud ymlaen yn sydyn tuag at ail refferendwm, yna yn amlwg mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer hynny, oherwydd tasa'r Alban yn tynnu allan o'r Deyrnas Gyfunol fel mae hi, fysa hynny 'efo effaith uniongyrchol ar Gymru." Ychwanegodd fod angen i'r blaid wneud mwy o waith i egluro goblygiadau ymarferol annibyniaeth.
“如果我们继续保持现状,我们需要做的是在独立的含义上做更多的家庭作业。
"Os 'dan ni'n parhau yn yr un sefyllfa 'dan ni rŵan, yr hyn sydd angen i ni wneud ydy llawer iawn mwy o waith cartref ar oblygiadau annibyniaeth.
“威尔士人民迄今为止还没有机会完全理解这一点,这或许是我们确保(这一点)的责任。”据威格利勋爵称,该党必须为下届议会选举中出现不止一种政治结果做好准备。
"Dyw pobl Cymru ddim wedi cael y cyfle hyd yma i ddod i ddeall hyn yn llawn, ac mae hynny falle yn gyfrifoldeb arnon ni i sicrhau [hynny]." Yn ôl yr Arglwydd Wigley, mae'n rhaid i'r blaid fod yn barod ar gyfer mwy nag un canlyniad gwleidyddol yn etholiadau nesaf y Senedd.
“如果我们领导政府,或者……即使我们是反对党,我们也必须更加详细地关注这些想法,以便威尔士人民能够理解它们。”“威尔士与英格兰之间的开放边界”威格利认为,如果威尔士与英格兰之间能维持开放的经济安排,独立对威尔士来说是可行的。
"Os y'n ni'n arwain llywodraeth neu… hyd yn oed os ydyn ni'n wrthblaid, ma' rhaid i ni roi mwy o sylw manwl i'r syniadau fel fod pobl Cymru yn dod i ddeall nhw." 'Ffin agored rhwng Cymru a Lloegr' Yn ôl Wigley, gallai annibyniaeth weithio i Gymru pe bai trefniadau economaidd agored yn cael eu cynnal rhwng Cymru a Lloegr.
“对我来说,独立的前提是威尔士和英格兰之间存在开放的边界,因为没有这一点,它就无法非常有效地运作。
"I mi, ma' annibyniaeth yn cymryd yn ganiataol fod yna ffin agored rhwng Cymru a Lloegr oherwydd heb hynny dydy o ddim yn gweithio'n effeithiol iawn.
“但如果我们能在独立后在这些岛屿上拥有一个针对商品、人员和资金的自由市场,那么就有充分的理由告诉你这可以行得通,因为我们将有更多的理由投入关注、时间和金钱来发展我们自己的国家。”作为回应,威尔士党发言人表示:“威尔士党政府的意图是成立一个新的威尔士国家委员会,就威尔士的宪法未来提供独立建议,并在威尔士宪法未来独立委员会工作的基础上再接再厉。
"Ond os oes gennyn ni farchnad rydd ar gyfer nwyddau, pobl ac arian dros yr ynysoedd yma ar ôl cael annibyniaeth, yna ma' pob rheswm yn dweud wrthoch chi fod hyn yn gallu gweithio, oherwydd bydd gennym ni lawer mwy o reswm i roi sylw, amser ac arian i ddatblygu ein gwlad ein hunain." Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Bwriad Llywodraeth Plaid Cymru yw sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru i roi cyngor annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan adeiladu ar waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
“这将有助于确保进行一场基于证据的包容性全国性讨论,让威尔士人民有机会考虑我们国家未来的不同选择”。
"Bydd hyn yn helpu i sicrhau trafodaeth genedlaethol gynhwysol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan roi cyfle i bobl Cymru ystyried y gwahanol opsiynau ar gyfer dyfodol ein cenedl".
据威尔士政府称:“这届新政府对威尔士充满雄心,我们将继续坚持不懈地争取,以确保我们的国家能够充满信心地发挥其全部潜力”。
Yn ôl Llywodraeth Cymru: "Mae'r llywodraeth newydd hon yn uchelgeisiol dros Gymru, a byddwn yn parhau i ddadlau'n gyson er mwyn sicrhau bod ein cenedl yn gallu cyrraedd ei llawn botensial gyda hyder".