
威尔士首席大臣表示,关于向威尔士政府提供更多支出和借贷权力,安迪·伯纳姆已迈出“一大步”。
Mae Prif Weinidog Cymru yn dweud bod "cam sylweddol ymlaen" wedi bod gydag Andy Burnham ynglŷn â rhoi mwy o bwerau gwario a benthyg i Lywodraeth Cymru.
英国首相周五在格拉斯哥会见了鲁恩·阿普·约尔沃斯(Rhun ap Iorwer斯),以及苏格兰首席大臣约翰·斯温尼(John Swinney),举行了国家经济委员会会议。
Roedd Prif Weinidog Prydain yn Glasgow ddydd Gwener i gwrdd â Rhun ap Iorwerth, ynghyd â Phrif Weinidog yr Alban John Swinney, ar gyfer cyfarfod o'r Cyngor Economaidd Cenedlaethol.
两政府均称会谈“积极”,鲁恩·阿普·约尔沃斯表示,现在的问题是“何时以及如何”向威尔士政府提供更多财政额度。
Mae'r ddwy lywodraeth wedi dweud bod y sgyrsiau wedi bod yn "gadarnhaol", gyda Rhun ap Iorwerth yn dweud bod hi nawr yn fater o "sut a phryd" fydd mwy o rymoedd ariannol yn cael eu rhoi i Lywodraeth Cymru.
但英国首相仍呼吁对威尔士和苏格兰地区进行“更深层次”的财政分权。
Ond mae Prif Weinidog Prydain yn dal i alw am ddatganoli "dyfnach" i ranbarthau Cymru a'r Alban.
安迪·伯纳姆称,威尔士和苏格兰首席大臣已承诺在“地区预算”上与他合作。
Yn ôl Andy Burnham, roedd Prif Weinidogion Cymru a'r Alban wedi addo cydweithio ag ef ar "rymuso rhanbarthol".
目前尚未提出时间表,说明何时会改变威尔士政府的额外收入和使用更多预算储备的能力,但鲁恩·阿普·约尔沃斯称,谈判已出现“一大步”。
Does dim amserlen wedi ei gynnig o ran pryd fydd newidiadau i allu llywodraeth Cymru i fenthyg rhagor a defnyddio mwy o'u cronfa wrth gefn, ond yn ôl Rhun ap Iorwerth roedd yna "gam sylweddol ymlaen" yn sgil y trafodaethau.
“关于威尔士政府的借贷权力以及我们如何使用自己的钱,已经有人承诺何时会实现,但现在还不是时候,”他在周五的会晤中说。会议在英国财政部的午后进行,鲁恩·阿普·约尔沃斯称自己“几乎记不起”过去预算中对威尔士的提及。
"Ar bwerau benthyg Llywodraeth Cymru a hyblygrwydd yn sut ydan ni'n defnyddio ein harian ni mi gafwyd addewid mai sut a phryd fydd hyn yn digwydd ydy hi rŵan, nid os." Roedd y cyfarfod ddydd Gwener yn dod deuddydd wedi ffrae dros Gyllideb Llywodraeth Prydain, gyda Rhun ap Iorwerth yn dweud ei fod "prin yn gallu cofio" cyllideb lle'r oedd "cyn lleied o sôn am Gymru".
威尔斯党称,预算意味着对威尔士政府的真实资金削减,因为在未来三年内将进入威尔士的额外4.5亿英镑不足以应对公共服务因通胀而增加的成本。英国政府对此表示否认。
Mae Plaid Cymru yn dweud bod y Gyllideb yn golygu toriad termau real mewn arian i Lywodraeth Cymru am nad yw'r £450m ychwanegol fydd yn dod i Gymru dros y tair blynedd nesaf yn ddigon i ateb costau ychwanegol chwyddiant ar wasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Prydain yn gwadu hynny.
在十月初致安迪·伯纳姆的信中,鲁恩·阿普·约尔沃斯呼吁向威尔士提供更多财政额度和资金——包括即时财政分权与公平、更多道路投资,以及扩大威尔士政府从预算储备中提取资金的能力——即一种财政储备,允许威尔士政府将未使用的年度资金结转至下一年。
Mewn llythyr at Andy Burnham ddechrau Hydref, fe alwodd Rhun ap Iorwerth am nifer o rymoedd ychwanegol ac arian i Gymru - o ddatganoli heddlua a chyfiawnder, i ragor o arian i reilffyrdd ac ymestyn gallu Llywodraeth Cymru i dynnu arian o'r gronfa wrth gefn - sef cronfa arian lle mae Llywodraeth Cymru yn gallu cadw arian sydd heb ei wario o un flwyddyn i'r llall.
目前,该储备金已被限制在 3.85 亿英镑,威尔士政府每年只能提取 1.375 亿英镑用于日常开支,以及 5500 万英镑用于资本支出。
Ar hyn o bryd, mae'r gronfa wedi ei chyfyngu i £385m, a gall llywodraeth Cymru ond tynnu £137.5m y flwyddyn ar gyfer gwariant dydd i ddydd, a £55m y flwyddyn ar gyfer gwariant cyfalaf.
威尔士政府的借贷能力也被限制在总额 11 亿英镑,每年最高借贷额为 1.65 亿英镑——这明显低于苏格兰。
Mae gallu'r llywodraeth i fenthyca hefyd wedi ei gyfyngu i gyfanswm o £1.1bn, ac uchafswm benthyca o £165m y flwyddyn - sy'n sylweddol is na'r Alban.
伦·阿普·约沃思表示,他对关于铁路的讨论也感到受到鼓舞,因为周三预算中一项 3000 万英镑用于卡迪夫新建火车站的承诺,曾被威尔士交通部长形容为“冒犯”。
Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod wedi ei galonogi gyda'r sgyrsiau ynglŷn â rheilffyrdd hefyd, ar ôl i addewid o £30m ar gyfer gorsaf reilffordd newydd yng Nghaerdydd yn y gyllideb ddydd Mercher gael ei ddisgrifio fel "sarhad" gan weinidog trafnidiaeth Cymru.
“在铁路方面,很明显存在一种理解,即这未得到应有的政治关注,首席部长对我说——‘是的,我需要更多地了解那里的不公’——由于今天的会议,这现在已成为一项能够以不同精神推进的工作。”但伦·阿普·约沃思承认,在其他呼吁上“还有大量工作要做”,例如将警权下放给威尔士。
"Ar reilffyrdd roedd yn amlwg bod dealltwriaeth fod diffyg sylw gwleidyddol wedi ei roi i hyn, a'r Prif Weinidog yn dweud wrtha i - 'ie, dwi angen dysgu mwy am yr anghyfiawnder yna' - mae hwnna rŵan yn ddarn o waith sy'n gallu mynd ymlaen mewn ysbryd gwahanol oherwydd y cyfarfod yma heddiw." Ond roedd Rhun ap Iorwerth yn cydnabod bod "lot o waith eto i'w wneud" ar alwadau eraill fel datganoli'r grym dros heddlua i Gymru.
关于安迪·伯纳姆呼吁对威尔士地区进行“更深度的下放权力”,伦·阿普·约沃思表示那里有“共同立足点”可寻。
O ran galwadau Andy Burnham am "ddatganoli dyfnach" i ranbarthau Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth bod "tir cyffredin" i'w ganfod yno.
“我获得了明确保证,将由我们在威尔士来决定我们的区域结构——但‘我想要在与英国政府的积极合作中做到这一点,以实现他和我们想要看到的东西,即繁荣’。”会后安迪·伯纳姆也表示,会议是“富有建设性的”,并称已与下放权力的首席部长们达成协议,“共同致力于在苏格兰和威尔士推动区域赋权”。
"Cefais i sicrwydd clir mai ni yng Nghymru fydd yn penderfynu ar ein strwythurau rhanbarthol - ond 'mod i eisiau 'neud hynny mewn cydweithrediad positif efo llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn gweithredu'r hyn mae o a finnau eisiau gweld sef llewyrch." Wrth siarad wedi'r cyfarfod, dywedodd Andy Burnham hefyd fod y cyfarfod wedi bod yn un "cadarnhaol", gan ddweud bod cytundeb wedi bod gyda'r Prif Weinidogion datganoledig i "weithio gyda'n gilydd ar rymuso rhanbarthol yn yr Alban a Chymru".
“今天就两个方面进行了良好的交谈,一个是关于再工业化,另一个是关于将更多创新资金下放到区域层面。”
"Cafwyd sgwrs dda heddiw ar ddau agwedd, un o gwmpas ail-ddiwydiannu ac ar gynnig mwy o ddatganoli o gyllid arloesi i lefel ranbarthol."
安迪·伯纳姆表示,英国政府现在将着手研究“进一步下放就业支持安排”。预计英国首相和所有分权国家领导人将于周五出席国家经济理事会会议。
Dywedodd Andy Burnham y byddai Llywodraeth y DU nawr yn edrych ar "drefniadau ar gyfer datganoli pellach ar gyfer cefnogaeth cyflogaeth." Roedd disgwyl i Brif Weinidog y DU a holl arweinwyr y cenhedloedd datganoledig fynychu cyfarfod y Cyngor Economaidd Cenedlaethol ddydd Gwener.
然而,周四显而易见的是,北爱尔兰首席部长将不会出席,此前副首席部长反对这一做法。
Fodd bynnag, daeth i'r amlwg ddydd Iau na fyddai Prif Weinidog Gogledd Iwerddon yn bresennol, ar ôl i'r Dirprwy Brif Weinidog wrthwynebu hynny.
当被问及会前是否会为威尔士提出独立议题时,阿普·约沃斯表示:“这关乎为威尔士创造一个繁荣的未来。”
Pan ofynnwyd i Rhun ap Iorwerth cyn y cyfarfod a fyddai'n codi mater annibyniaeth i Gymru, dywedodd ap Iorwerth: "Mae hyn yn ymwneud â chreu dyfodol llewyrchus i Gymru."
“这关乎着手解决目前作为政府所面临的问题——涉及公平资金的问题,以及我们为改善威尔士民众生活所需的权力。”关注 Cymru Fyw 的 TikTok 账号 将任何故事线索发送至 cymrufyw@bbc.co.uk 或通过 WhatsApp 联系 07709850033。
"Mae hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â'r materion sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd fel llywodraeth – materion yn ymwneud â chyllid teg, a'r pwerau sydd eu hangen arnom i wella bywydau pobl yng Nghymru." Dilynwch Cymru Fyw ar TikTok Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.